Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Mehefin 2018
Amser:
09.20 -
12.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4800
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Catrin Edwards, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taff Gemma Halliday, Cyngor Gofal Cymru Claire Morgan, Estyn Sarah Mutch, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Catherine Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Kevin Baker, Care Inspectorate Wales Gill Huws-John, Care Inspectorate Wales Jane Rees, Estyn Esther Thomas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Mererid Wyn Williams, Estyn |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, nid oedd dim ymddiheuriadau.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn.
2.2
Cytunodd i roi eglurhad ynghylch a oedd y 35,000 o blant yn y
garfan yn cynnwys plant a anwyd yn yr hydref a'r haf.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan AGC a GCC.
3.2 Cytunodd AGC i rannu manylion canlyniadau'r gwerthusiad o raglen beilot fframwaith cyd-arolygu Estyn-AGC.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.
4.2 Cytunodd aelodau'r panel i ddarparu nodyn am y canlynol:
Faint o awdurdodau lleol sy'n rhoi dewis i rieni rhwng lleoliadau nas cynhelir a lleoliadau a gynhelir ar gyfer mynediad at yr hawl i gyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar.
Y
cyfraddau fesul awr y mae awdurdodau lleol yn talu i leoliadau a
gynhelir a lleoliadau nas cynhelir ar gyfer darparu'r hawl i gyfnod
sylfaen y blynyddoedd cynnar.
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6.1
Derbyniwyd y cynnig.
7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y bore.
8.1 Yn amodol ar fân newidiadau, derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.